Steffan Evans i gyd-gadeirio’r Grŵp Arbenigol Cynnal gyda’r Dirprwy Brif Weinidog Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, [...] More
The post Prif Weithredwr Sefydliad Bevan i gyd-gadeirio Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru appeared first on Bevan Foundation.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, wedi cyhoeddi ei bod sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi Llywodraeth Cymru gyda’i chynllun peilot Cynnal. Fe fydd hi’n cyd-gadeirio’r grwp ochr yn ochr â Phrif Swyddog Gweithredol Sefydliad Bevan, Steffan Evans.
Mae Sefydliad Bevan wedi galw ers tro am sefydlu Taliad Plant Cymru, wedi’i fodelu ar Daliad Plant yr Alban. Mae tystiolaeth o’r Alban wedi dangos y gall darparu arian ychwanegol i deuluoedd incwm isel wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl gan godi plant allan o dlodi a lleihau caledi.
Bydd cynllun peilot Cynnal yn gweld 15,000 o blant 0–6 oed sy’n byw mewn aelwydydd sy’n hawlio Credyd Cynhwysol yng Nghymru yn derbyn £10 yr wythnos fel rhan o beilot o Daliad Plant Cymru. Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Steffan Evans:
Rwy’n falch iawn o weld Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i peilot Cynnal. Mae’r dystiolaeth o’r Alban yn glir bod gan y polisi y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ledled Cymru, ac mae’n galonogol gweld cynnydd yn cael ei wneud tuag at sefydlu taliad tebyg yng Nghymru.
Edrychaf ymlaen at allu rhannu arbenigedd y Sefydliad ar dlodi plant yng Nghymru fel cyd-gadeirydd y grŵp arbenigol ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r arbenigwyr eraill a fydd yn ffurfio’r grŵp.
Mae’r Sefydliad eisoes wedi siarad ag aelodau o bob plaid wleidyddol yn dilyn yr etholiad i bwyso am dlodi plant i fod yn flaenoriaeth ac rydym ni’n edrych ymlaen at barhau i wneud hynny dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
| # | Наименование новости | Тональность | Информативность | Дата публикации |
|---|---|---|---|---|
| 1 | Cadernid economaidd ac etholiad y Senedd 2026 | 0 | 12.31 | 14-07-2026 |
| 2 | Archwilio’r sail gyfansoddiadol ar gyfer cyflwyno taliad plant yng Nghymru | 0 | 8.99 | 09-07-2026 |
| 3 | Launch webinar: How economic insecurity shaped the 2026 Senedd election | 0 | 13.44 | 12-06-2026 |
| 4 | Rhoi Taliad Plant Cymru ar waith – pa lwybrau all Llywodraeth Cymru eu cymryd? | 0 | 6.64 | 09-07-2026 |
| 5 | Implementing a Welsh Child Payment: what routes can the Welsh Government take? | 0 | 8.06 | 09-07-2026 |
| 6 | Economic insecurity and the 2026 Senedd election | 0 | 14.08 | 14-07-2026 |
| 7 | Mae pleidleiswyr sy’n ansicr yn economaidd eisiau gweld newid, dyletswydd gwleidyddion yw ei gyflawni | 0 | 9.49 | 14-07-2026 |
| 8 | Sharing insights at Powys Child Poverty Taskforce’s Annual Conference | 0 | 6.12 | 19-06-2026 |
| 9 | Exploring the constitutional basis for delivering a child payment in Wales | 0 | 7.71 | 09-07-2026 |
| 10 | North Wales quarry plans 'must be delayed' until Cardiff blast probe concludes | 0 | 8.71 | 05-08-2026 |